Beca MaiRICHARDSO ganlyniad i ddamwain drasig, hunodd Beca Mai o Langain, Caerfyrddin yn dawel yn Ysbyty'r Heath, Caerdydd ar Awst 26ain, yn 23 mlwydd oed. Merch annwyl a ffyddlon Eleri, chwaer gariadus a ffrind gorau Llion a Tegid. Wyres arbennig i'r diweddar Barchedig Llungwyn a Mattie (Non) Jones ac Eric a Margaret Richards, a chyfeilles a drysorwyd gan gymaint. Angladd gyhoeddus yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, ddydd Sadwrn Medi 11eg am 11.00 o'r gloch i'w ddilyn gan gladdedigaeth ym mynwent Smyrna, Llangain. Croesawir gwisgo eitem pinc ac osgoi du a bydd angen mwgwd yn y capel. Blodau'r teulu yn unig. Os dymunir, derbynnir yn garedig roddion tuag at Uned Gofal Dwys, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, at les perthnasau a'r staff, neu i Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 237100 / 01267 241626
Keep me informed of updates